National Water Safety Forum

NWSF Logo

Cynnydd mewn boddi damweiniol yng Nghymru yn annog galw am gadw’n ddiogel wrth fwynhau dŵr agored

06/05/2022

Digwyddodd 26 o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i foddi damweiniol yn 2021 ar draws lleoliadau mewndirol ac arfordirol, o gymharu â 25 o farwolaethau yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae’r achosion o foddi damweiniol yn rhan o’r cyfanswm o 49 o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru yn 2021, sef gostyngiad o 1 ers y flwyddyn flaenorol.

Ledled y DU digwyddodd 277 o farwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â dŵr – sef cynnydd o 23 ers y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn rhan o gyfanswm o 616 o farwolaethau o ganlyniad i foddi a gafwyd y llynedd, sef gostyngiad o 15 ers y flwyddyn flaenorol. 

Gan fod y nifer farwolaethau damweiniol yn uchel yn barhaus, ysgogwyd Diogelwch Dŵr Cymru – sef  sefydliadau sy’n ymdrechu ar y cyd i leihau achosion o foddi yng Nghymru – drwy gyhoeddi cyngor cydgysylltiedig i’r sawl sy’n ymweld â dyfrffyrdd ac arfordiroedd a’u mwynhau. Mae eu gwaith yn rhan o ymgyrch #Parchu'rDŵr. Nod yr ymgyrch hon sy’n cael ei chynnal ar y cyd gan Ddiogelwch Dŵr Cymru a’r Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (NWSF), yw lleihau nifer y marwolaethau a damweiniau sy’n gysylltiedig â dŵr.  

Mewn galwad i weithredu, mae aelodau Diogelwch Dŵr Cymru yn gofyn i bawb gefnogi a hyrwyddo #Parchu’rDŵr sef yr ymgyrch genedlaethol i leihau boddi a gynhelir yn ystod yr haf eleni.

Nod yr ymgyrch genedlaethol yw darparu cyngor syml ar gyfer achub bywyd a all helpu aelodau’r cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb personol am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu teulu drwy gofio’r awgrymiadau hyn ar gyfer achub bywyd: 

  • Os ewch chi i drafferth yn y dŵr, Arnofiwch i Fyw.
  • Pwyswch yn ôl a defnyddiwch eich breichiau a'ch coesau i'ch helpu i arnofio, ceisiwch reoli eich anadlu wedyn galwch am help neu nofiwch i ddiogelwch.
  • Os gwelwch rywun arall mewn trafferth yn y dŵr, ffoniwch 999 neu 112. Os mai ar yr arfordir rydych chi gofynnwch am wyliwr y glannau, os ydych chi mewn lleoliad mewndirol, gofynnwch am y gwasanaeth tân.

Mae’r ffigurau diweddaraf o’r Gronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr (WAID), a gynhelir gan yr NWSF, yn amlygu tueddiadau boddi yn ystod 2021.

Mae casgliadau WAID Cymru am farwolaethau o ganlyniad i foddi damweiniol yng Nghymru yn cynnwys:

Bu 26 o farwolaethau damweiniol

  • Roedd 69% o farwolaethau damweiniol yn ddynion
  • Dynion 20 - 39 oedd y grŵp uchaf o ran marwolaethau damweiniol
  • Digwyddodd 62% o farwolaethau damweiniol mewn dyfroedd arfordirol
  • Roedd gweithgareddau hamdden yn cyfrif am 58% o farwolaethau damweiniol (gweler Ffigur 7)
  • Nid oedd gan 30% o bobl unrhyw fwriad i fynd i mewn i'r dŵr, megis y sawl oedd yn cerdded, gydag achosion yn cynnwys llithro, baglu a chwympo, cael eu hynysu gan y llanw, neu eu hysgubo i ffwrdd gan donnau.

Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru: “Parhaodd y pandemig i gyflwyno heriau sylweddol yn ein dyfrffyrdd arfordirol a mewndirol y llynedd. Cynlluniwyd ymgyrch #Parchu’rDŵr i helpu i atal marwolaethau pellach. Rydym yn annog y cyhoedd i ddeall y peryglon, i ddysgu pwysigrwydd gwybod sut i arnofio i fyw, ac i ffonio 999 os bydd eraill mewn trafferth ac os oes argyfwng yn ymwneud â dŵr.

‘Y llynedd, gwelsom fwy o gyfranogiad mewn rhai gweithgareddau megis padlfyrddio wrth sefyll a’r cynnydd dilynol mewn digwyddiadau, a fydd yn destun ffocws pellach gan Ddiogelwch Dŵr Cymru.

‘Byddem yn annog unrhyw un sy’n ceisio padlfyrddio wrth sefyll ar ddŵr agored i ystyried y ffactorau canlynol:

  • Deallwch derfyn eich gallu. Byddwch yn onest am wybodaeth, ffitrwydd a gallu eich cymdeithion a chi eich hun ill dau. Os nad yw’r amodau o fewn eich gallu chi a gallu eich grŵp ddylech chi ddim padlo.
  • Gwiriwch ragolygon diweddaraf eich diwrnod - gwiriwch gryfder a chyfeiriad y gwynt eto wrth gyrraedd, osgowch wyntoedd alltraeth a cherhyntau cryf, gall lefelau afonydd godi a disgyn.
  • Gwisgwch dennyn (wedi'i chysylltu'n iawn o'ch corff i'r bwrdd). Mae gwybodaeth am ddewis tennyn priodol ar gyfer eich gweithgaredd yma.
  • Gwisgwch gymhorthyn hynofedd a siwt rwber neu haenau ynysu dan siaced atal gwynt.
  • Os yn bosib, ewch gyda ffrind yn gwmni bob amser. Os ydych chi'n mynd allan ar eich pen eich hun, dywedwch wrth rywun ble rydych chi'n mynd a phryd y byddwch chi'n ôl.
  • Cariwch ffôn symudol wedi'i wefru bob amser mewn bag sy'n dal dŵr a chadwch ef lle gallwch ei gyrraedd yn hawdd. Os oes angen help arnoch, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub (dyfroedd mewndirol) neu Wylwyr y Glannau (ardal y môr a’r arfordir)

Ychwanegodd Chris Cousens: “Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn credu bod unrhyw farwolaeth un yn ormod ac ni ellir diystyru effaith colli rhywun achos marwolaeth yn y dŵr. Byddwn yn lleihau achosion o foddi os bydd pawb yn chwarae eu rhan a nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 yw galluogi pobl sy’n byw ac yn ymweld â Chymru i fod yn fwy diogel yn y dŵr neu o’i gwmpas, drwy leihau marwolaethau a digwyddiadau yn gysylltiedig â dŵr.”

I weld a lawrlwytho adroddiad WAID 2021, sy’n cael ei gynnal gan y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol, ewch i: https://nationalwatersafety.org.uk/waid/annual-reports-and-data/

 

DIWEDD

Troednodiadau:

(1) Mae ystadegau WAID eleni yn cynnwys cyfanswm marwolaethau o hunanladdiadau a amheuir neu a gadarnhawyd. Y cyfanswm ar gyfer Cymru oedd 14. Gweler canllawiau cyfryngau’r Samariaid wrth adrodd ar hunanladdiad yma a/neu ganllawiau’r IPSO: Adrodd ar hunanladdiad i newyddiadurwyr (ipso.co.uk)

Nodiadau i olygyddion 

Mae cyfweliadau Saesneg ar gael gyda Chris Cousens trwy ffonio XXXX neu drwy e-bost ar XXXX. Mae cyfweliadau Cymraeg hefyd ar gael ar gais.

Lawrlwythwch fideo yn dangos aelodau o'r teulu sy wedi colli anwyliaid o ganlyniad i foddi yma:https://source.rnli.org.uk/share/D38A0623-26AD-4902-A52678D28238BA6D/

Lawrlwythwch Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 ac i gael rhagor o wybodaeth am Ddiogelwch Dŵr Cymru, ewch i: http://nationalwatersafety.org.uk/wales/

Mae adroddiad damweiniau angheuol sy’n gysylltiedig â dŵr gan WAID yn casglu data o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys adroddiadau crwner i bennu’r ‘canlyniad’ cyfreithiol a meddygol. Mae gan adroddiad 2020 nifer uwch o adroddiadau ‘heb eu cofnodi’ a allai achosi i’r nifer o 25 gael ei adolygu i nifer mwy pan fydd gwybodaeth bellach ar gael.

Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn gydweithrediad o unigolion, cymunedau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat gyda diddordeb mewn diogelwch dŵr ac atal boddi. Ei nod yw lleihau nifer y marwolaethau a'r digwyddiadau sy'n ymwneud â dŵr yng Nghymru drwy hyrwyddo pwysigrwydd ymagwedd gyson ac effeithiol at ddiogelwch dŵr.

Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o Adventure Smart Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Dŵr Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent, Cadwch Gymru’n Daclus, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cymdeithas Cynhyrchion Mwynau, Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau, y Samariaid, Severn Trent Water, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyngor Abertawe, Nofio Cymru, Cymdeithas Achub Bywydau Syrffio Cymru, Water Safety Scotland. 

Mae adroddiad tueddiadau ar farwolaethau cysylltiedig â dŵr yng Nghymru ar-lein yma: waid-wales-2021-summary-11-final.pdf (nationalwatersafety.org.uk)

Manylion data WAID 277 o farwolaethau damweiniol, 7 trosedd, 137 heb eu cofnodi, 195 hunanladdiad tybiedig. 

 


News Search

Newsletter sign up

Fill in your details below to sign up to our Water Safety newsletter:

Twitter feed