Cynnydd yn nifer y bobl iau nag 20 oed sy’n boddi yng Nghymru yn ysgogi galwad i blant a phobl ifanc fod yn ddiogel o amgylch dŵr agored
Mae pobl o bob oed yng Nghymru yn cael eu hannog i ddilyn cyngor allweddol ar ddiogelwch er mwyn helpu plant a phobl ifanc i aros yn ddiogel o amgylch y môr, afonydd a dŵr agored arall.
Daw’r alwad gan grŵp Diogelwch Dŵr Cymru wrth i ystadegau blynyddol am foddi ddangos cynnydd yn nifer y marwolaethau damweiniol o ganlyniad i foddi yn ymwneud â phobl iau nag 20 oed.
Bu farw pedwar unigolyn iau nag 20 oed o ganlyniad i foddi’n ddamweiniol yng Nghymru yn 2022 – y nifer uchaf ers i ddata cymaradwy ddod ar gael gan Gronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr (WAID) y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol yn 2015.
Roedd cyfanswm o 22 o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i foddi’n ddamweiniol yn 2022 ar draws lleoliadau mewndirol ac arfordirol, o gymharu â 26 yn y flwyddyn flaenorol.
Mae’r achosion o foddi’n ddamweiniol yn rhan o’r cyfanswm o 48 o farwolaethau cysylltiedig â dŵr yng Nghymru ar gyfer 2022, sef un yn llai na’r flwyddyn flaenorol a gostyngiad cyffredinol yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Roedd 226 o farwolaethau damweiniol cysylltiedig â dŵr ledled y Deyrnas Unedig – 51 yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn rhan o’r cyfanswm o 597 o achosion o foddi y llynedd, sef 19 yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r cynnydd mewn digwyddiadau boddi yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru wedi ysgogi Diogelwch Dŵr Cymru – sef cydweithrediad o sefydliadau sy’n ymdrechu i leihau boddi yng Nghymru – i gyhoeddi pedwar canllaw syml ar achub bywydau i helpu pobl ifanc i aros yn ddiogel wrth ymweld â dŵr agored:
- Pwyllwch: A yw’n lle diogel i nofio? A oes peryglon o dan y dŵr? A oes cerhyntau cudd neu ddŵr sy’n llifo’n gyflym? Pa mor ddwfn ydyw ac a allwch chi ddod allan yn rhwydd?
- Arhoswch gyda’ch gilydd: Ewch gyda rhywun arall bob amser
- Arnofiwch: Os byddwch mewn trafferth yn y dŵr, arnofiwch i fyw nes i chi dawelu
- Galwch 999 neu 112: Os byddwch yn gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr
Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru: “Roedd pawb yn gysylltiedig â Diogelwch Dŵr Cymru yn drist iawn i glywed am y digwyddiadau trasig yn ymwneud â phobl ifanc yn colli eu bywydau mewn dŵr agored yng Nghymru y llynedd.
“Credwn fod un achos o foddi’n ormod ac ni ellir bychanu effaith colli person ifanc o ganlyniad i foddi. Dylai pobl o bob oed ddysgu a chofio’r pedwar canllaw diogelwch allweddol hyn i blant a phobl ifanc, a dylai oedolion siarad â’u plant amdanynt.
“Bydd mwy o bobl ifanc yn ymweld â’r môr, afonydd, cronfeydd dŵr, llynnoedd a lleoliadau dŵr agored eraill yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod wrth i’r tywydd wella ac ysgolion dorri ar gyfer gwyliau’r haf. Mae’r dŵr yn dal i fod yn ddigon oer i sbarduno sioc dŵr oer, sef adwaith naturiol y corff i ddŵr oer sy’n gallu achosi panig ac ebychu am aer.
“Os byddwch chi’n mynd i drafferth yn y dŵr, brwydrwch yn erbyn y reddf naturiol i gynhyrfu ac Arnofiwch i Fyw. Pwyswch yn ôl a defnyddiwch eich breichiau a’ch coesau i’ch helpu i arnofio ar eich cefn, yna rheolwch eich anadl cyn galw am help neu nofio i ddiogelwch. Os byddwch yn gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr, galwch 999 neu 112. Os ydych chi ar yr arfordir, gofynnwch am wylwyr y glannau. Os ydych chi ymhellach i mewn i’r tir, gofynnwch am y gwasanaeth tân.
‘Mae’r môr, afonydd, llynnoedd a dŵr agored arall edrych yn llonydd ac yn ddeniadol, ond gall dŵr agored fod yn wahanol iawn i bwll nofio. Mae’r dŵr fel arfer yn symud ac mae tonnau, cerhyntau a llif yn gallu gwneud nofio’n anodd. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod dyfnder y dŵr a beth allai fod o dan yr wyneb.’
Yn 2022, ymrwymodd yr Aelod o’r Senedd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, ei chefnogaeth i weithio gyda Diogelwch Dŵr Cymru i gyflawni Strategaeth Atal Boddi Cymru. Daeth hyn ar ôl gwaith diflino gan deuluoedd yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan foddi, gan gynnwys Leanne Bartley o Ruthun a lansiodd ddeiseb er cof am ei mab, Mark Allen, yn galw am welliannau diogelwch dŵr a gafodd fwy na 10,000 o lofnodion.
Ychwanegodd Chris Cousens: ‘Mae’n galonogol iawn bod nifer gyffredinol yr achosion o foddi yng Nghymru wedi gostwng ychydig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn 2022 a bod achosion o foddi’n ddamweiniol wedi gostwng mwy na 15% ers y flwyddyn flaenorol.
‘Mae cael cefnogaeth Julie James a’i thimau yn gam mawr ymlaen i atal boddi yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ein gweledigaeth o Gymru lle nad oes neb yn boddi.’
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, “Rwy’n falch o weld gostyngiad yn nifer gyffredinol yr achosion o foddi damweiniol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r cynnydd mewn marwolaethau damweiniol o ganlyniad i foddi ymhlith pobl ifanc yn achos pryder mawr. Cynigiaf fy nghydymdeimlad dwys i unrhyw un y mae unrhyw ddigwyddiad boddi yng Nghymru wedi effeithio arno.
“Rwy’n llwyr gefnogi’r Strategaeth Atal Boddi a gwaith Diogelwch Dŵr Cymru. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i weithredu argymhellion adroddiad Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi Pwyllgor Deisebau’r Senedd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Diogelwch Dŵr Cymru ar gyflawni’r Strategaeth Atal Boddi.”
Mae’r ffigurau diweddaraf o’r Gronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr (WAID), a gynhelir gan y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol, yn amlygu tueddiadau boddi o 2022.
Dyma rai ffeithiau allweddol gan WAID am farwolaethau o ganlyniad i foddi’n ddamweiniol yng Nghymru:
- Roedd 22 o farwolaethau damweiniol
- Gwrywod oedd 91% o’r rhai a fu farw’n ddamweiniol
- Gwrywod 10-19 oed oedd y grŵp uchaf ar gyfer marwolaethau damweiniol
- Digwyddodd 50% o’r marwolaethau o ganlyniad i foddi’n ddamweiniol ar yr arfordir a 50% ar ddyfrffyrdd mewndirol
- Roedd gweithgareddau hamdden yn cyfrif am 72% o’r marwolaethau damweiniol
- Nid oedd 28% o bobl wedi bwriadu mynd i mewn i’r dŵr, fel pobl a oedd yn cerdded, ac roedd achosion yn cynnwys llithro, baglu a chwympo, cael eu hynysu gan y llanw, neu gael eu hysgubo i mewn gan y tonnau.
- Digwyddodd 46% o’r marwolaethau o ganlyniad i foddi yng Nghymru yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst.
Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn cefnogi ymgyrch #ParchwchYDŵr y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol, sef ymgyrch ar y cyd i roi cyngor syml ar achub bywydau sy’n gallu helpu aelodau’r cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb personol am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu teulu trwy gofio dau ganllaw ar achub bywydau. Bydd y Fforwm hefyd yn hyrwyddo’r ymgyrch yn ddiweddarach yn yr haf ar gyfer Diwrnod Atal Boddi y Byd ar 25 Gorffennaf.
Ychwanegodd Chris Cousens: “Byddwn yn lleihau achosion o foddi os bydd pawb yn chwarae eu rhan, a nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 yw galluogi pobl sy’n byw yng Nghymru ac yn ymweld â Chymru i fod yn fwy diogel yn y dŵr, ar y dŵr ac o amgylch y dŵr trwy leihau marwolaethau a digwyddiadau cysylltiedig â dŵr.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch #ParchwchYDŵr, ewch i https://respectthewater.com/