National Water Safety Forum

NWSF Logo

DATGANIAD I’R CYFRYNGAU

30/05/2024

Galw am ddiogelwch dŵr wrth i nifer y marwolaethau drwy foddi ymhlith pobl ifanc yng Nghymru gynyddu

Mae pobl o bob oed yng Nghymru yn cael eu hannog i ddysgu cynghorion diogelwch allweddol i helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel o amgylch y môr, afonydd a dŵr agored arall.

Daw'r alwad gan Ddiogelwch Dŵr Cymru wrth i ystadegau ddangos cynnydd mewn marwolaethau drwy foddi’n ddamweiniol ymysg pobl dan 20 oed am yr ail flwyddyn o’r bron.

Mae Diogelwch Dŵr Cymru – cydweithrediad rhwng sefydliadau sy'n ceisio lleihau boddi yng Nghymru – heddiw yn cyhoeddi pedwar cyngor syml ar achub bywydau i helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel wrth ymweld â dŵr agored:

 

Stopiwch a meddyliwch: Ydy e’n lle diogel i nofio? Oes yna beryglon dan y dŵr? Oes cerrynt cudd neu ddŵr sy'n llifo'n gyflym? Pa mor ddwfn ydy’r dŵr ac allwch chi ddod allan yn hawdd?

Arhoswch gyda'ch gilydd: Ewch gyda rhywun arall bob amser

Arnofiwch: Os byddwch chi'n mynd i drafferth yn y dŵr, arnofiwch i fyw nes eich bod chi'n teimlo'n ddigynnwrf

Ffoniwch 999 neu 112: Os byddwch chi'n gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr

 

Bu farw saith o bobl dan 20 oed mewn marwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru yn 2023 – y nifer uchaf ers i ddata cymharol ddod ar gael o Gronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (WAID) yn 2015.

Cafwyd cyfanswm o 28 o farwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru yn 2023 ar draws lleoliadau mewndirol ac arfordirol, o'i gymharu â 22 y flwyddyn cynt.

Mae'r marwolaethau damweiniol yn rhan o'r 55 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru yn 2023, sef cynnydd o saith ar y flwyddyn flaenorol a'r cynnydd cyffredinol cyntaf yng Nghymru mewn pum mlynedd.

Ar draws y Deyrnas Unedig roedd 236 o farwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â dŵr y llynedd – cynnydd o 10 ar y flwyddyn flaenorol. 

Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru:

"Roedd pawb sy'n gysylltiedig â Diogelwch Dŵr Cymru yn drist iawn o glywed am y digwyddiadau trasig yn ymwneud â phobl ifanc yn colli eu bywydau mewn dŵr agored yng Nghymru y llynedd.

"Rydyn ni’n credu bod un boddi yn un yn ormod a does dim modd gor-ddweud effaith colli person ifanc drwy foddi. Dylai pobl o bob oed ddysgu a chofio'r pedwar cyngor diogelwch allweddol hyn ar gyfer plant a phobl ifanc a dylai oedolion siarad â'u plant amdanyn nhw.

"Bydd mwy o bobl ifanc yn ymweld â'r môr, afonydd, cronfeydd dŵr, llynnoedd a lleoliadau dŵr agored eraill wrth i'r tywydd wella ac wrth i’r ysgolion gau ar gyfer gwyliau'r haf. Mae'r dŵr yn dal yn ddigon oer i greu sioc dŵr oer, sef ymateb naturiol y corff i ddŵr oer a all achosi panig a dyheu am anadl.

"Os byddwch chi'n mynd i drafferth yn y dŵr, gwrthodwch eich greddf naturiol i fynd i banig ac Arnofiwch i Fyw. Pwyswch yn ôl a defnyddiwch eich breichiau a'ch coesau i'ch helpu i arnofio ar eich cefn, yna rheolwch eich anadlu cyn galw am help neu nofio i le diogel. Os byddwch chi'n gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr, ffoniwch 999 neu 112. Os ydych chi ar yr arfordir, gofynnwch am wylwyr y glannau; os ydych chi mewn man mewndirol, gofynnwch am y gwasanaeth tân

Gall y môr, afonydd, llynnoedd a dyfroedd agored eraill edrych yn dawel a deniadol, ond gall dŵr agored fod yn wahanol iawn i bwll nofio. Mae'r dŵr fel arfer yn symud ac mae tonnau, cerrynt a llif yn gallu gwneud nofio'n anodd. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod dyfnder y dŵr a beth all fod dan yr wyneb.'

Daw'r data newydd yng nghanol y newyddion y bydd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn goruchwylio ysgrifenyddiaeth Diogelwch Dŵr Cymru ac yn rheoli prosiectau penodol y cytunwyd arnynt megis mewn addysg, arwyddion ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol.

 

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: "Mae dŵr yn rhan sylfaenol o'n bywydau ni yng Nghymru ond gyda'r harddwch a'r trysor yma daw cyfrifoldeb pendant: i wneud ein gorau glas i sicrhau bod ein dyfroedd yn ddiogel i bawb.

"Mae yna ormod o ddigwyddiadau a marwolaethau yn gysylltiedig â dŵr o hyd. Dyma lle mae’n hymdrechion ni tuag at ddiogelwch dŵr yn dod yn bwysig, a pham mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Ddiogelwch Dŵr Cymru a, nawr gyda chymorth y bartneriaeth newydd gyda RoSPA, mor hanfodol.

"Mae diogelwch o amgylch dŵr yn hollbwysig. Mae'r cynnydd mewn digwyddiadau boddi ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn ein hatgoffa ni fod gwyliadwriaeth ac addysg yn hanfodol.

"Gyda'n gilydd, gallwn achub bywydau a gadewch inni sicrhau bod pob plentyn yn gwybod sut i gadw'n ddiogel wrth ddŵr agored yr haf yma."

 

Dywedodd Carlene McAvoy, Uwch Reolwr Polisi RoSPA:

"Rydyn ni’n drist iawn gyda'r ffigurau sy'n dangos bod marwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â dŵr yn 2023 wedi codi yng Nghymru ers 2022. Mae'r data hefyd yn dangos bod mwy na hanner y marwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â gweithgareddau bob dydd, sydd hefyd yn peri pryder ac yn achos dros weithredu.

"Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau Diogelwch Dŵr Cymru i ddatblygu rhagor o fentrau a phrosiectau i helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon dŵr."

Mae’r canfyddiadau allweddol o ystadegau 2023 yn cynnwys:

Gwrywod oedd 76 y cant o’r marwolaethau damweiniol, a gwrywod 10-19 oedd y grŵp oedran â’r risg uchaf.

Digwyddodd 59 y cant o’r marwolaethau damweiniol yn fewndirol, gan danlinellu'r peryglon sy’n bresennol mewn afonydd, llynnoedd, a dyfroedd mewndirol eraill.

Gweithgareddau bob dydd oedd yn gyfrifol am 52 y cant o'r marwolaethau hyn, gan bwysleisio'r angen am ymwybyddiaeth uwch yn ystod gweithgareddau arferol

ger dŵr.

Nododd dau adroddiad ar farwolaeth ddamweiniol fod alcohol yn bresennolgan dynnu sylw at ffactor risg ychwanegol yn sgil defnyddio sylweddau yn ymyl dŵr.

Cyfradd y marwolaethau damweiniol yn gysylltiedig â dŵr oedd 0.89 am bob 100,000 o boblogaeth, sef cynnydd ar y gwaelodlin cyfartalog o 0.76 a osodwyd gan Strategaeth Atal Boddi Cymru 2024-2026 (WDPS).

 

Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn cefnogi #ParchwchYDŵr gan y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol, sef ymgyrch ar y cyd sy’n anelu at roi cyngor achub bywyd syml a all helpu’r cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb personol dros eu diogelwch nhw eu hunain a'u teulu trwy gofio dau awgrym achub bywyd. Bydd y Fforwm hefyd yn hybu ymgyrch yn nes ymlaen yn yr haf ar gyfer Diwrnod Atal Boddi y Byd ar 25 Gorffennaf.

Ychwanegodd Chris Cousens: "Byddwn ni’n lleihau boddi os bydd pawb yn chwarae eu rhan a nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 yw galluogi pobl sy'n byw yng Nghymru ac yn ymweld â Chymru i fod yn fwy diogel mewn dŵr, ar ddŵr ac o gwmpas dŵr a hynny trwy leihau marwolaethau a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â dŵr."

I weld a lawrlwytho adroddiad WAID 2023 ewch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #ParchwchYDŵr ewch i https://respectthewater.com/

 


News Search

Newsletter sign up

Fill in your details below to sign up to our Water Safety newsletter:

Twitter feed