Water Safety Wales

NWSF Wales Logo

Ymgynghoriad ar Strategaeth Atal Boddi Cymru

Mae arnon ni eisiau eich barn ar Strategaeth Atal Boddi ddrafft Cymru

Mae dŵr yn rhan bwysig o fywyd yng Nghymru — o afonydd a chamlesi i lynnoedd, cronfeydd dŵr a'n harfordir — ond mae hefyd yn creu risgiau a all arwain at golli bywydau a niwed difrifol. Dyna pam y cyhoeddodd Diogelwch Dŵr Cymru Strategaeth Atal Boddi Cymru am y tro cyntaf (2020-2025) a pham rydyn ni wrthi erbyn hyn yn datblygu strategaeth wedi'i diweddaru. Mae'r strategaeth yn nodi'r ymagwedd genedlaethol at leihau’r niferoedd sy’n boddi a gwella diogelwch dŵr ledled Cymru.

Mae'r ymgynghoriad yma yn gyfle i unigolion, sefydliadau a chymunedau rannu eu barn ar y strategaeth ddrafft a helpu i lunio'r fersiwn derfynol.

Darllenwch Strategaeth Atal Boddi ddrafft Cymru

Lleisiwch eich barn: Ymgynghoriad ↗ Strategaeth Atal Boddi Cymru

 


Mae Strategaeth Atal Boddi ddrafft Cymru yn cynnig fframwaith cenedlaethol i lywio camau diogelwch dŵr ledled Cymru. Mae'n cynnwys:

  • Gweledigaeth - Tuag at ddim boddi: Adeiladu dyfodol lle gall pawb yng Nghymru fod yn ddiogel yn y dŵr, ar y dŵr ac o amgylch y dŵr
  • Nodau strategol sy'n canolbwyntio ar weithio gyda theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan foddi, codi ymwybyddiaeth, gwella addysg a data, cryfhau’r gweithredu lleol, a chefnogi arbenigwyr mewn meysydd cysylltiedig
  • Camau i’w cymryd gan y partneriaid mewn addysg, gwasanaethau brys, sefydliadau cymunedol a'r llywodraeth
  • Ystyried materion sy'n dod i'r amlwg, megis effeithiau newid hinsawdd a chynnydd yn y defnydd o ddŵr agored

Rydyn ni’n gofyn am eich barn ynghylch a yw'r strategaeth:

  • yn ymdrin â'r blaenoriaethau cywir ar gyfer lleihau nifer y marwolaethau drwy foddi yng Nghymru
  • yn glir ac yn gyraeddadwy
  • yn adlewyrchu profiad byw a safbwyntiau lleol
  • ag unrhyw fylchau y dylid mynd i'r afael â nhw

Does dim angen gwybodaeth arbenigol arnoch i ymateb: mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn diogelwch dŵr gyfrannu.

Mae'r ymgynghoriad yn agored tan 11 Mawrth 2026